Polisi preifatrwydd
Mae’r Gwasanaeth Cymorth ar ôl Trawma Mawr yn wasanaeth a ddarperir gan Hugh James. Pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth drwy’r wefan hon, bydd eich data personol yn cael eu casglu a’u prosesu gan Hugh James, sy’n gweithredu fel y rheolydd data.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio pan fyddwch yn cwblhau ein ffurflen ar-lein.
Cyflwyniad
Rydym yn trin preifatrwydd a chyfrinachedd yn ddifrifol iawn yn Hugh James. Rydym yn cydymffurfio â phob agwedd ar fframwaith deddfwriaethol diogelu data y DU, sy’n cynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) Ewropeaidd a deddfwriaeth y DU ei hun, yn ogystal â rhwymedigaethau cyfrinachedd eraill sy’n gymwys i ni gan ein bod yn gyfreithwyr.
Wrth ddarparu gwasanaethau cyngor cyfreithiol ac ariannol i’n cleientiaid a rhedeg ein busnesau, rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am nifer o gategorïau gwahanol o bobl. Rydym wedi datblygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn er mwyn bod mor dryloyw â phosibl am y wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a’i defnyddio.
At ddiben Deddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf), y rheolydd data yw Hugh James, Dau Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FS.
A yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi?
Ysgrifennwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn er budd y categorïau canlynol o bobl (y cyfeirir atynt fel “chi” yn yr hysbysiad hwn):
- ein cleientiaid a phobl sy’n eu cynrychioli neu sy’n gweithio iddynt
- cwsmeriaid ein cleientiaid, y mae ein cleientiaid wedi rhoi cyfarwyddyd i ni weithredu drostynt
- pobl sy’n gwneud ymholiadau am ein gwasanaethau
- pobl sy’n derbyn ein diweddariadau cyfreithiol, cylchlythyrau neu wahoddiadau i’n seminarau a’n digwyddiadau a’r bobl sy’n mynychu’r digwyddiadau hynny
- pobl sy’n ymweld â’n gwefannau neu sy’n ein dilyn ni ar sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol
- pobl y mae eu gwybodaeth bersonol yn ofynnol er mwyn galluogi ein cleientiaid (neu eu cwsmeriaid) i gael cyngor cyfreithiol neu fel arall i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol
- pobl (a’u cynrychiolwyr) sy’n ymwneud ag un o faterion ein cleientiaid, gan gynnwys tystion a’r partïon eraill i’r achos ymgyfreitha neu sydd ar ochr arall y trafodiadau
- cysylltiadau busnes Hugh James
- cyflenwyr rydym yn eu defnyddio neu y mae ein cleientiaid yn eu defnyddio
- ein rheoleiddwyr, yswirwyr, archwilwyr, cynghorwyr proffesiynol a chyrff ardystio
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gymwys i’r canlynol:
- pobl sy’n gweithio i ni ar hyn o bryd, sydd wedi gweithio i ni neu sydd â diddordeb mewn gweithio i ni. Rydym wedi ysgrifennu hysbysiad preifatrwydd ar wahân i’r grŵp hwn.
- unrhyw wasanaethau rydym yn eu darparu i gleient fel prosesydd data. Yn yr amgylchiadau hynny, caiff y ffordd rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol ei chwmpasu gan hysbysiad preifatrwydd ein cleient
Os ydych chi o’r farn ein bod yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, ond nad ydych wedi’ch cynnwys yn y rhestr uchod, cysylltwch â ni i drafod hyn.
Yr hyn y mae’r hysbysiad hwn yn ei gwmpasu
Gofynnwn eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y canlynol:
- y wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a’i defnyddio
- y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i’w chasglu a’i defnyddio
- pam rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol
- o ble rydym yn cael y wybodaeth bersonol
- â phwy y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol
- pan fyddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd
- am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth a sut y byddwn yn sicrhau ei bod yn ddiogel
- eich hawliau preifatrwydd
Dylech sicrhau eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd cyffredinol hwn ochr yn ochr ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd penodol y gallem ei ddosbarthu i chi, o dro i dro, mewn perthynas â’ch gwybodaeth.
Rheolydd data
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw gan Hugh James. Rydym wedi penodi Swyddog Diogelu Data penodol a fydd yn sicrhau y caiff ein gweithgareddau prosesu data eu goruchwylio’n briodol. Joanne Cromwell, Pennaeth Cydymffurfiaeth ac Ansawdd yn Hugh James, yw’r Swyddog Diogelu Data. Gellir cysylltu â hi drwy e-bost yn [email protected].
Categorïau o wybodaeth bersonol rydym yn eu cadw
Mae’r wybodaeth bersonol a gasglwn yn cynnwys:
- gwybodaeth sylfaenol, fel eich enw (gan gynnwys teitl), y cwmni rydych yn gweithio iddo, eich teitl neu eich swydd a’ch perthynas â pherson.
- gwybodaeth gyswllt, fel eich cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhif(au) ffôn.
- gwybodaeth adnabod a gwybodaeth gefndir a roddwyd gennych chi neu a gasglwyd fel rhan o’n prosesau gwirio cleientiaid. Gall hyn gynnwys dyddiad geni, cenedligrwydd, man geni, cyfeiriadau blaenorol a rhifau cardiau adnabod, fel trwydded yrru a phasbort.
- os mai chi yw ein cleient, byddwn yn casglu gwybodaeth am eich amgylchiadau sydd wedi arwain at eich dymuniad i ddefnyddio ein gwasanaethau. Gall hyn gynnwys data categori arbennig lle bo hyn yn berthnasol i’r mater rydym yn gweithio arno ar eich cyfer a gwybodaeth am aelodau o’ch teulu a’ch buddiolwyr. Rydym hefyd yn cadw cofnodion o’ch cyswllt â ni.
- os ydych yn rhan o faterion un o’n cleientiaid, byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch sy’n berthnasol i’r mater.
Gall hyn gynnwys data categori arbennig.
- gwybodaeth ariannol, fel gwybodaeth sy’n gysylltiedig â thaliadau, a gwybodaeth sy’n berthnasol i gyllid, fel cyfrif banc neu rifau polisïau.
- gwybodaeth dechnegol a gesglir pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan neu ffynhonnell ddigidol, neu mewn perthynas â deunyddiau a chyfathrebiadau a anfonwn atoch yn electronig, sy’n cynnwys gwybodaeth am y math o ddyfais rydych chi’n ei defnyddio, eich cyfeiriad IP a’ch lleoliad daearyddol, eich system weithredu a’ch fersiwn, math o borwr, y cynnwys rydych yn edrych arno a’r termau chwilio rydych yn eu teipio.
- y wybodaeth a rowch i ni at ddibenion mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau a gynhelir gennym, gan gynnwys gofynion mynediad a deietegol.
- Os byddwn yn casglu neu’n derbyn eich gwybodaeth bersonol yng nghyd-destun y gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol a ddarperir gennym, gallem dderbyn gwybodaeth gan drydydd partïon, fel eich perthnasau, cyflogwr, partïon eraill sy’n ymwneud â’r gwasanaethau rydym yn eu darparu (e.e. partïon eraill mewn achosion ymgyfreitha neu drafodiadau) neu eraill fel rheoleiddwyr ac awdurdodau. Bydd y wybodaeth a gasglwn yn berthnasol i’r gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol rydym yn eu darparu i’n cleient a gall gynnwys categorïau data arbennig lle mae’n gyfreithiol i ni eu prosesu.
Y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol
Rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol i brosesu eich gwybodaeth bersonol:
| Cyflawni contract | Mae’r sail hon yn gymwys lle mae angen i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn cymryd camau i ymrwymo i gontract â chi neu gyflawni ein rhwymedigaethau o dan gontract â chi. |
| Rhwymedigaeth gyfreithiol | Mae’r sail hon yn gymwys lle mae angen i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â deddfau a gofynion rheoliadol cymwys. |
| Buddiannau dilys | Mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddatblygu ein buddiannau busnes dilys ymhellach. Byddwn ond yn gwneud hyn lle rydym yn fodlon y caiff eich hawliau preifatrwydd eu diogelu’n foddhaol. Mae gennych hawl i wrthwynebu i unrhyw gamau i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r sail gyfreithiol hon (gweler isod). |
| Cadarnhau, arfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol | Mae hyn yn gymwys lle mae angen i ni gasglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol i’n galluogi i gadarnhau, arfer neu amddiffyn ein hawliad cyfreithiol ein hunain neu pan fyddwn yn gweithio ar faterion ar gyfer ein cleientiaid neu eu cwsmeriaid. |
| Cydsyniad | Mae’n bosibl y bydd angen (ond fel rheol ni fydd angen) eich cydsyniad arnom i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Gallwch dynnu’ch cydsyniad yn ôl drwy gysylltu â ni (gweler isod). |
| Budd y cyhoedd | Er nad ydym yn gorff cyhoeddus, rydym yn casglu ac yn defnyddio rhywfaint o wybodaeth bersonol lle mae angen gwneud hyn er mwyn cyflawni tasgau sydd er budd y cyhoedd. |
Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol?
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion canlynol, gan ddibynnu ar y seiliau cyfreithlon penodol a nodir yn y tabl isod:
| Pam | Y seiliau cyfreithiol |
| Rheoli a gweinyddu ein cydberthynas â’n cleientiaid a darparu gwasanaethau cyngor cyfreithiol ac ariannol iddynt. | Cyflawni contract Cadarnhau, arfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol |
| Rheoli a gweinyddu ein cydberthynas â chwsmeriaid ein cleientiaid a darparu gwasanaethau cyngor cyfreithiol ac ariannol iddynt | Rhwymedigaeth gyfreithiol Buddiannau dilys Cadarnhau, arfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol |
| Cynnal gwiriadau cefndir ar ddarpar gleientiaid, gan gynnwys gwirio hunaniaeth a gwiriadau a gynhelir am resymau atal gwyngalchu arian, atal terfysgaeth, er mwyn osgoi achosion o wrthdaro buddiannau, gwiriadau ariannol a gwiriadau mewn perthynas ag enw da. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau awtomataidd, ond byddwn yn defnyddio asiantaethau gwirio credyd ac atal twyll a all wneud hynny. | Rhwymedigaeth gyfreithiol Buddiannau dilys Budd y cyhoedd |
| Helpu ein cleientiaid i gael cyllid ac yswiriant i’w helpu i fynd ar drywydd eu materion ac i gael gafael ar gynhyrchion ariannol a’u caffael | Buddiannau dilys Cydsyniad |
| Helpu ein cleientiaid (neu eu cwsmeriaid) i gael cymorth gyda’u materion gan gwnsleriaid arbenigol, cynghorwyr proffesiynol a chyllidwyr | Cyflawni contract Buddiannau dilys Cadarnhau, arfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol |
| Sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon ragorol i gleientiaid drwy ein prosesau archwilio, adolygu a’n gwiriadau sicrhau ansawdd ein hunain neu drwy’r rhai a gyflawnir gan ein cleientiaid, rheoleiddwyr, archwilwyr, cynghorwyr proffesiynol a chyrff ardystio | Buddiannau dilys |
| Rheoli a gweinyddu ein cydberthnasau â’r rhai sy’n cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i ni | Cyflawni contract Rhwymedigaeth gyfreithiol Buddiannau dilys |
| Gwneud a rheoli taliadau i gleientiaid a chyflenwyr, gan gynnwys casglu taliadau sy’n ddyledus i ni | Cyflawni contract Rhwymedigaeth gyfreithiol Buddiannau dilys |
| Ymchwilio i unrhyw gwynion neu ymholiadau | Cyflawni contract Buddiannau dilys |
| Cyflawni gweithrediadau ein busnesau o ddydd i ddydd yn effeithlon fel arall, gan gynnwys rheoli ein sefyllfaoedd ariannol, galluedd busnes, cynllunio, cyfathrebiadau, llywodraethu corfforaethol ac archwilio | Rhwymedigaeth gyfreithiol Buddiannau dilys Budd y cyhoedd |
| Ymgymryd â gweithgareddau a ddyluniwyd i hyrwyddo a marchnata ein gwasanaethau, gan gynnwys anfon cylchlythyrau, diweddariadau cyfreithiol, cynnal digwyddiadau a seminarau, eich gwahodd i fwynhau ein lletygarwch a’ch croesawu, a chadw cofnodion o’ch buddiannau yn y gweithgareddau hyn | Buddiannau dilys Cydsyniad (lle y bo’n gyfreithiol ofynnol) |
| Ymgymryd â gweithgareddau marchnata ar-lein, gan gynnwys defnyddio amrywiaeth o sianeli digidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol | Buddiannau dilys Cydsyniad (lle y bo’n gyfreithiol ofynnol) |
| Darparu gwasanaethau “gwerth ychwanegol” i’n cleientiaid | Buddiannau dilys |
| Hyfforddi a datblygu ein staff a’r bobl sy’n gweithio i ni | Cyflawni contract Rhwymedigaeth gyfreithiol Buddiannau dilys |
| Rhedeg ein rhaglenni cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol | Buddiannau dilys |
| Atal achosion gwirioneddol neu bosibl o dwyll neu weithgareddau anghyfreithlon, ac ymateb iddynt | Rhwymedigaeth gyfreithiol Budd y cyhoedd |
| Cadarnhau, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol neu at ddiben gweithrediadau cyfreithiol y gallem fod yn rhan ohonynt | Cadarnhau, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol |
Yn ogystal, gallwn goladu, prosesu a rhannu adroddiadau ystadegol yn seiliedig ar gyfuno gwybodaeth bersonol ddienw a ddelir gennym. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth o resymau busnes. Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at unrhyw ddiben arall, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio’r sail gyfreithiol sy’n caniatáu i ni wneud hynny.
Gwerth ychwanegol, cydberthynas â chleientiaid a gweithgareddau marchnata
Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u dylunio i ddarparu gwerth ychwanegol i’n cleientiaid a’n cysylltiadau busnes ac i adeiladu ar ein cydberthnasau â chi sydd eisoes yn rhagorol.
Er ein bod ni am eich cadw chi’n llwyr ymwybodol o’r holl wasanaethau a gynigiwn, rydym yn awyddus i sicrhau nad ydym yn gyfrifol am anfon deunydd marchnata digroeso atoch. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i deilwra’r wybodaeth a’r gwahoddiadau rydym yn eu hanfon. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn storio gwybodaeth am eich buddiannau proffesiynol a phersonol a’ch dewisiadau cyfathrebu. Rydym hefyd yn olrhain eich lefel ymgysylltu â ni, gan gynnwys drwy ein llwyfannau ar-lein a digidol.
Mae’r fframwaith deddfwriaethol ar ddiogelu data yn cydnabod bod gennym fuddiant busnes dilys dros gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am resymau marchnata. Nid oes angen eich cydsyniad arnom i wneud hyn yn gyfreithlon, ond mae rhwymedigaeth arnom i roi gwybod i chi bod gennych hawl i wrthwynebu hyn. Mae’r gyfraith hefyd yn ein galluogi i anfon cyfathrebiadau marchnata drwy ddulliau electronig at ein cleientiaid presennol a’n cysylltiadau busnes heb fod angen cydsyniad. Unwaith eto, mae gennych yr hawl i wrthwynebu’r gweithgaredd hwn os dymunwch.
Rydym o’r farn y gallwn gadw gwybodaeth at ddibenion marchnata am gyfnodol amhenodol, a pharhau i gyfathrebu â chi o bryd i’w gilydd, hyd nes ac oni bai eich bod yn gofyn i ni stopio. Pan fyddwn yn anfon gwybodaeth atoch am y gwasanaethau a gynigiwn neu wahoddiadau i’n digwyddiadau, byddwn yn cynnwys opsiwn syml i “ddad-danysgrifio” bob amser. Os byddwch yn cael anawsterau wrth geisio defnyddio’r opsiwn hwn neu am gael gwybod mwy am y gweithgarwch hwn, cysylltwch â ni.
Ffynonellau gwybodaeth
Daw’r wybodaeth bersonol sydd gennym o ystod o ffynonellau.
- Rydych chi’n rhoi eich gwybodaeth bersonol i ni yn uniongyrchol pan fyddwch yn ymgysylltu â ni, gan gynnwys drwy ein gwefannau neu ein sianeli ar y cyfryngau digidol
- Cawn wybodaeth ychwanegol wrth gynnal gwiriadau er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau statudol a rheoliadol neu lle mae’r gwiriadau hynny er ein buddiant busnes dilys ni
- Rydym yn caffael ac yn cynhyrchu gwybodaeth bersonol wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol neu ariannol a’ch helpu i gaffael cyllid ac yswiriant
- Cawn fanylion cyswllt a gwybodaeth arall gan ein cysylltiadau busnes
- Rydym yn casglu gwybodaeth gan ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus fel cyfeiriaduron ffôn, y cyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd ac erthyglau newyddion, ac yn prynu rhestrau marchnata cysylltiadau busnes o bryd i’w gilydd
- Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol wrth fonitro ein hadnoddau a’n gwasanaethau technoleg, gan gynnwys ein gwefannau, negeseuon e-bost a chyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
I gael gwybodaeth am ein defnydd o ddyfeisiau olrhain a chwcis, cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis.
Os hoffech roi gwybodaeth bersonol i ni am rywun arall, siaradwch â ni i sicrhau bod gennych hawl gyfreithiol i roi’r wybodaeth i ni ac i gael cyngor ar b’un a oes angen i chi roi gwybod i’r unigolyn dan sylw.
Rhannu eich data personol
Mae’n bosibl y gall nifer o drydydd partïon gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol neu efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth honno neu’n ei hanfon atynt. Er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau i chi, gall rhai trydydd partïon hefyd gasglu data personol amdanoch ar ein rhan. Mae hyn yn cynnwys:
- Cyflenwyr, sy’n rhwym wrth rwymedigaethau cyfrinachedd, sy’n darparu nwyddau, gwasanaethau a chyngor proffesiynol i ni i’n helpu i redeg ein busnesau
- Asiantaethau gwirio credyd i’n helpu i gynnal gwiriadau hunaniaeth a chredyd
- Trydydd partïon sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i gleientiaid fel arbenigwyr, cwnsleriaid, cynghorwyr proffesiynol eraill, cyllidwyr a darparwyr yswiriant
- Trydydd partïon sy’n ymwneud â materion ein cleientiaid fel gwrthbleidiau mewn achosion ymgyfreitha a thrafodiadau, eu cynrychiolwyr a chynghorwyr eraill, llysoedd a thribiwnlysoedd, asiantaethau’r llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith
- Trydydd partïon sy’n dymuno cynnig cynhyrchion ariannol i’n cleientiaid cyngor ariannol
- Trydydd partïon sy’n nodi ac yn rheoli canlyniadau cyngor cleientiaid ar ran ein cleientiaid gwasanaethau ariannol
Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol ag awdurdodau rheoliadol, asiantaethau’r llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Byddwn yn gwneud ymdrech resymol i roi gwybod i chi cyn i ni wneud hyn, oni bai bod cyfyngiadau cyfreithiol arnom rhag gwneud hynny.
Nid ydym yn gwerthu gwybodaeth bersonol, yn ei rhentu nac yn ei darparu’n fasnachol fel arall i unrhyw drydydd parti.
Mae’r cwmni’n defnyddio gwasanaeth ateb ffôn er mwyn darparu gwasanaethau switsfwrdd ac ateb ffôn. Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, bydd y darparwr yn cofnodi manylion personol amdanoch, gan gynnwys manylion cyswllt ymhlith pethau eraill, i’w alluogi i roi gwybod i ni eich bod wedi ein ffonio fel y gallwn eich ffonio’n ôl.
Hugh James Trust Corporation Limited a PRD Trust Corporation Limited
Cwmni yw corfforaeth ymddiriedolaeth a all ddal asedau yng Nghymru a Lloegr yn ogystal â thramor, yn unol â’r diffiniad yn adran 68(18) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925. Gall corfforaethau ymddiriedolaeth weithredu fel gweithredwyr ac ymddiriedolwyr, cyfreithwyr a dirprwyon, ymhlith pethau eraill.
Mae Hugh James Trust Corporation Limited (HJTC) a PRD Trust Corporation Limited (PRDTC) yn eiddo llwyr i bartneriaid Hugh James. Maent yn endidau nad ydynt yn masnachu ac nid oes ganddynt unrhyw gyflogeion.
Nid yw HJTC na PRDTC yn gwneud unrhyw waith eu hunain ond, yn hytrach, maent yn rhoi cyfarwyddyd i Hugh James ymgymryd ag unrhyw waith ar eu rhan y mae’n ofynnol iddynt ymgymryd ag ef mewn materion lle y cânt eu penodi. Mae Hugh James yn ymgymryd â gwaith i HJTC a PRDTC yn yr un ffordd yn union ac ar yr un telerau yn union ag y mae’n ei wneud i unrhyw gleient arall. Caiff nifer cyfyngedig o uwch-aelodau Hugh James eu grymuso i wneud penderfyniadau a llofnodi dogfennau ar ran Hugh James Trust Corporation Limited.
Bydd unrhyw ddata a brosesir at ddibenion penodiadau HJTC a PRDTC yn cael eu prosesu gan Hugh James ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Trosglwyddiadau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
Nid ydym yn anfon data personol y tu allan i’r AEE fel mater o drefn. Nid yw’r un o’r darparwyr gwasanaethau a ddefnyddiwn i’n helpu i redeg ein busnesau wedi’u lleoli y tu allan i’r AEE.
Gall data personol gael eu trosglwyddo y tu allan i’r AEE lle rydym yn gweithredu ar ran unigolion neu gleientiaid busnes sydd â buddiannau y tu allan i’r AEE. Ceir enghreifftiau o amgylchiadau o’r fath isod:
Lle rydym yn gweithredu ar ran cleientiaid unigol sydd:
- yn byw y tu allan i’r AEE
- yn meddu ar asedau neu sydd â pherthnasau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r AEE
- yn gweithio neu wedi gweithio i fusnesau sydd â gweithrediadau y tu allan i’r AEE
- wedi cael damweiniau y tu allan i’r AEE
- â rheswm i wneud hawliad yn erbyn busnes, unigolyn, ymddiriedolaeth, ystad neu sefydliad y tu allan i’r AEE
Lle rydym yn gweithredu ar ran neu ar y cyd â busnesau neu sefydliadau sydd:
- â gweithrediadau neu gyflogeion / contractwyr sydd y tu allan i’r AEE
- yn prynu nwyddau neu wasanaethau gan fusnesau neu sefydliadau sydd y tu allan i’r AEE
- yn ymrwymo i drafodiadau â busnes, sefydliadau neu unigolion y tu allan i’r AEE
- mewn anghydfodau cyfreithiol posibl gyda busnes, unigolyn, ymddiriedolaeth, ystad neu sefydliad y tu allan i’r AEE
Os bydd angen i ni drosglwyddo data personol y tu allan i’r AEE, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ac yn cymryd camau i sicrhau y caiff y wybodaeth ei diogelu yn yr un ffordd â phe bai’n cael ei defnyddio yn yr AEE. Os effeithir arnoch, dylech drafod hyn â’r cyfreithiwr sy’n gweithredu ar eich rhan a fydd yn esbonio’r mesurau diogelu penodol a roddir ar waith gennym.
Dewis peidio â rhoi gwybodaeth bersonol
Os byddwch yn dewis peidio â darparu data personol penodol i ni, dylech fod yn ymwybodol na fyddwn yn gallu cynnig rhai gwasanaethau i chi o bosibl. Er enghraifft, ni allwn weithredu ar eich rhan os na allwn gadarnhau pwy ydych chi a chynnal gwiriadau atal gwyngalchu arian arnoch.
Cadw gwybodaeth bersonol
Ein polisi ni yw peidio â dal gwybodaeth bersonol am gyfnod hwy na’r hyn sydd angen. Rydym wedi sefydlu amserlenni cadw data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a ddelir gennym yn seiliedig ar pam y mae angen y wybodaeth arnom. Mae’r amserlenni yn ystyried unrhyw rwymedigaethau statudol neu reoliadol sydd gennym i gadw’r wybodaeth, ein gallu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol, ein buddiannau busnes dilys, arferion gorau a’n galluoedd technegol presennol. Rydym wedi datblygu Polisi Cadw Data sy’n nodi’r wybodaeth hon. Rydym yn dileu neu’n dinistrio gwybodaeth bersonol yn ddiogel, yn unol â’r Polisi Cadw Data.
Diogelwch
Mae gennym ymrwymiad cryf i ddiogelwch gwybodaeth, ac rydym yn cymryd camau rhesymol a phriodol i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol rhag mynediad anawdurdodedig, colled, camddefnydd, newid neu lygredigaeth. Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli ar waith i ddiogelu’r wybodaeth a rowch i ni, gan gynnwys defnyddio amgryptiad a data dan ffugenw. Mae gennym ardystiad Cyber Essentials Plus. Os hoffech drafod diogelwch eich gwybodaeth, cysylltwch â ni.
Hawliau unigol
Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’ch data personol sydd gennym. Nid yw’r holl hawliau’n gymwys dan yr holl amgylchiadau. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau, cysylltwch â ni yn y ffyrdd y nodir isod:
- Mae gennych yr hawl i weld y wybodaeth bersonol a ddelir gennym amdanoch
- Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth a ddelir gennym amdanoch y credwch ei bod yn anghywir neu’n anghyflawn
- Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu lle rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys i wneud hynny, a’ch bod yn credu bod eich hawliau a’ch buddiannau’n drech na’n rhai ni a’ch bod yn dymuno i ni roi’r gorau iddi. Fodd bynnag, gall fod rhesymau cyfreithiol neu resymau dilys eraill pam mae angen i ni gadw neu ddefnyddio eich gwybodaeth. Os yw hyn yn wir, byddwn yn ystyried eich cais ac yn esbonio pam na allwn gydymffurfio ag ef. Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol wrth i ni ystyried eich cais.
- Mae gennych yr hawl i wrthwynebu os byddwn yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Os nad ydych am dderbyn cyfathrebiadau gennym mwyach, cysylltwch â ni. Byddwn yn rhoi’r gorau i anfon cyfathrebiadau atoch ond byddwn yn parhau i gadw cofnod ohonoch a’ch cais i beidio â chlywed gennym. Pe byddem yn dileu’ch holl wybodaeth o’n cronfeydd data marchnata uniongyrchol, ni fyddai gennym gofnod o’r ffaith eich bod wedi gofyn i ni beidio â chyfathrebu â chi ac mae’n bosibl y byddwch yn dechrau cael cyfathrebiadau gennym rywbryd yn y dyfodol, os byddwn yn cael eich manylion o ffynhonnell wahanol.
- Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu’ch gwybodaeth. Enw arall ar hyn yw’r hawl i gael eich anghofio neu’r hawl i ddileu. Ni fyddwn yn cytuno i wneud hyn ym mhob achos gan ei bod yn bosibl y bydd rhesymau cyfreithiol neu resymau dilys eraill pam mae angen i ni gadw neu ddefnyddio eich gwybodaeth. Os yw hyn yn wir, byddwn yn ystyried eich cais ac yn esbonio pam na allwn gydymffurfio ag ef. Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol wrth i ni ystyried eich cais.
Lle rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn seiliedig ar eich cydsyniad, bydd gennych yr hawl i’w dynnu’n ôl unrhyw bryd. Cysylltwch â ni os hoffech wneud hynny.
Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gaffael y wybodaeth bersonol rydych chi wedi’i rhoi i ni mewn fformat y gellir ei ailddefnyddio’n hawdd a gofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol hon yn yr un fformat i sefydliadau eraill. Cysylltwch â ni i weld a yw’r hawl hon yn gymwys i chi.
Cysylltwch â ni
Os hoffech arfer unrhyw un o’ch hawliau o dan y GDPR neu os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym wedi defnyddio eich data personol, cysylltwch â’n Pennaeth Cydymffurfiaeth ac Ansawdd, Joanne Cromwell ar 029 2267 5241 neu drwy e-bost yn [email protected] neu drwy’r post i Hugh James, Dau Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FS.
Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i gael gwybodaeth am sut i roi gwybod am bryder.
Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 17 Chwefror 2025. Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd a gall newid o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a/neu ein harferion preifatrwydd. Byddem yn eich annog i fwrw golwg dros yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd i weld a oes unrhyw newidiadau.