Skip to content

Cymorth cyfreithiol

Ar ôl trawma mawr, efallai y bydd gennych gwestiynau y dylai arbenigwr cyfreithiol eu hateb. Weithiau, mae pobl yn gwneud tybiaethau am eu hawliau cyfreithiol, ond y peth gorau yw trafod y mater ag arbenigwr cyn gynted â phosibl er mwyn gwybod beth yw eich dewisiadau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar.

Gallwn drefnu i chi siarad â chyfreithwyr profiadol a chefnogol ynglŷn â’r canlynol:

  • Hawliadau iawndal ac anaf personol
  • Materion cyflogaeth
  • Materion cyfraith teulu
  • Atwrniaethau
  • Materion Llys Gwarchod a Dirprwyon
  • Gofal Iechyd Parhaus

GaMae tîm Anafiadau Difrifol Hugh James cael ei gydnabod yn gyson fel darparwr gofal blaengar i bobl yn dilyn anafiadau sy’n newid bywyd. Mae cyfeiriaduron annibynnol yn rhoi’r tîm yn Haen 1 yn Legal 500 a Band 1 yn Chambers and Partners.

Drwy weithio’n agos gydag elusennau fel Headway, y Spinal Injuries Association, y Child Brain Injury Trust, y Limbless Association a Brake, gallwn eich helpu i gael mynediad at gymorth arbenigol ehangach pan fydd ei angen arnoch.

Gallwch ddewis unrhyw gyfreithiwr sy’n teimlo’n iawn i chi. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gyfarwyddo Hugh James.

Os hoffech gael ymgynghoriad am ddim i drafod cyngor cyfreithiol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth ar ôl Trawma Mawr a byddwn yn trefnu bod cyfreithiwr arbenigol yn siarad â chi.

Cysylltwch â ni Cysylltwch â ni

Chwe philer o gymorth

Sgroliwch i weld yr holl wasanaethau