Bydd Ymarferydd Cyswllt Cleifion profiadol yn y Ganolfan Trawma Mawr yn Ne Cymru yn gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i chi ac yna’n eich helpu i gael y wybodaeth, yr arweiniad a’r cymorth cywir sydd eu hangen arnoch. Os ydych chi yn yr Uned Drawma, bydd yr Ymarferydd Cyswllt Cleifion yn gweithio gyda’ch Ymarferydd Trawma Mawr neu eich Cydgysylltydd Adsefydlu i sicrhau y caiff cymorth ei ddarparu drwy Rwydwaith Trawma De Cymru.
Bydd yr Ymarferwyr Cyswllt Cleifion sy’n hawdd mynd atynt yn cyfarfod â chleifion a theuluoedd i gynnig arweiniad, sicrwydd a chymorth ymarferol pan fydd eu hangen.
Gellir cael gafael ar gymorth drwy’r wefan hon hefyd, yn ogystal â thros y ffôn a thrwy e-bost, drwy siarad â’r Gwasanaeth Cymorth ar ôl Trawma Mawr yn Hugh James. Gall eich Ymarferydd Cyswllt Cleifion, eich Ymarferydd Trawma Mawr neu eich Cydgysylltydd Adsefydlu eich cyfeirio at ein manylion cyswllt. Os byddwch yn ceisio cymorth drwy’r wefan neu dros y ffôn neu drwy e-bost, bydd eich ymholiad yn cael ei drosglwyddo i’r Gwasanaeth Cymorth ar ôl Trawma Mawr yn Hugh James. Bydd ein tîm cyfeillgar yn cysylltu â chi i drafod y cymorth sydd ei angen arnoch yn fanylach.
Ariennir y Gwasanaeth Cymorth ar ôl Trawma Mawr gan Hugh James, cwmni cyfreithwyr blaenllaw sydd â phrofiad helaeth yn cefnogi pobl ar ôl anafiadau sy’n newid bywyd. Cynigir ymgyngoriadau am ddim i’ch helpu i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnoch. Gyda swyddfeydd ledled y DU a chydnabyddiaeth haen uchaf gan gyfeiriaduron cyfreithiol annibynnol, Legal 500 a Chambers and Partners, mae Hugh James yn gweithio’n agos gydag elusennau lleol a chenedlaethol, yn ogystal ag arbenigwyr adsefydlu i sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn cael cymorth holistaidd drwy gydol eu hadferiad.
Ein dull gweithredu
Gweithio gyda’n gilydd dros ganlyniadau gwell
Rydym yn gweithio’n agos gydag ysbytai a sefydliadau cymorth ledled Cymru i ddeall anghenion unigryw pob person ac rydym yn ymateb i’r heriau y gall eu hwynebu. Rydym yn cydgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, elusennau arbenigol, gwasanaethau cymorth lleol ac arbenigwyr cyfreithiol i sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir yn ystod pob rhan o’ch adferiad, gan gynnwys yn ystod eich amser yn yr ysbyty a phan fyddwch yn dychwelyd adref.
Mae’r dull gweithredu cydgysylltiedig hwn yn ein helpu i ddarparu cymorth amserol a chreu llwybrau adfer sy’n teimlo’n bersonol i bob claf a theulu, sy’n golygu nad oes rhaid i chi geisio ymdopi â phopeth ar eich pen eich hun.
Ein hymrwymiad
Fel rhan o’n hymroddiad i gefnogi adferiad:
- Darperir amrywiaeth o wasanaethau cymorth am ddim. Os bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch, darperir ymgynghoriad cychwynnol am ddim i adolygu a thrafod eich amgylchiadau.
- Mae cymorth ar gael i bob claf a theulu sy’n cael triniaeth gan Rwydwaith Trawma De Cymru.
- Ceir ffocws ar gymorth holistaidd a chanlyniadau ystyrlon i gleifion a theuluoedd.
Rydym yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Nid yw ein gwaith yn ymwneud â darparu gwasanaethu cyfreithiol yn unig, mae hefyd yn ymwneud â chefnogi’r daith adfer gyfan a helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau mewn ffordd sy’n parchu eu dewisiadau a’u hamgylchiadau.
Os hoffech chi neu rywun sy’n agos atoch gael cymorth, mae tîm ein Gwasanaeth Cymorth ar ôl Trawma Mawr yma i’ch helpu i gael yr arweiniad, y cysylltiadau a’r gofal sydd eu hangen arnoch.
Chwe philer o gymorth
Sgroliwch i weld yr holl wasanaethau
Cymorth gyda budd-daliadau
Cymorth i ddeall a chael y budd-daliadau lles y gallech fod yn gymwys i'w cael.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth emosiynol
Cwnsela cyfrinachol a chymorth emosiynol pan fydd angen i chi siarad â rhywun.
Dod o hyd i ragor o wybodaethRheoli achosion
Canllawiau gan reolwyr achosion arbenigol i helpu i gydgysylltu gofal a chymorth ymarferol.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth ariannol
Cymorth gyda phwysau ariannol a mynediad at gyngor ar grantiau a chymorth arbenigol.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth cyfreithiol
Ymgynghoriad am ddim er mwyn cael arweiniad cyfreithiol arbenigol i ateb cwestiynau am eich hawliau a'ch opsiynau.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth cymheiriaid
Cysylltiadau â phobl a grwpiau sy'n deall bywyd ar ôl trawma mawr.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth gyda budd-daliadau
Cymorth i ddeall a chael y budd-daliadau lles y gallech fod yn gymwys i'w cael.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth emosiynol
Cwnsela cyfrinachol a chymorth emosiynol pan fydd angen i chi siarad â rhywun.
Dod o hyd i ragor o wybodaethRheoli achosion
Canllawiau gan reolwyr achosion arbenigol i helpu i gydgysylltu gofal a chymorth ymarferol.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth ariannol
Cymorth gyda phwysau ariannol a mynediad at gyngor ar grantiau a chymorth arbenigol.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth cyfreithiol
Ymgynghoriad am ddim er mwyn cael arweiniad cyfreithiol arbenigol i ateb cwestiynau am eich hawliau a'ch opsiynau.
Dod o hyd i ragor o wybodaethCymorth cymheiriaid
Cysylltiadau â phobl a grwpiau sy'n deall bywyd ar ôl trawma mawr.
Dod o hyd i ragor o wybodaeth