Skip to content

Polisi cwynion

Mae’r Gwasanaeth Cymorth ar ôl Trawma Mawr yn wasanaeth a ddarperir gan Hugh James. Mae Hugh James yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol o ansawdd uchel i’n holl gleientiaid ac rydym yn croesawu adborth gan ein cleientiaid gan ei fod yn rhoi’r cyfle i ni adolygu a gwella ein gweithdrefnau mewnol a lefel ein gwasanaeth.

Mae Hugh James yn cymryd pob cwyn yn erbyn y cwmni neu unrhyw unigolyn sy’n cynrychioli’r cwmni o ddifrif ac mae’n ymrwymedig i weithdrefn gwyno a sefydlwyd i ymdrin â phob cwyn gan gleientiaid ac i leddfu unrhyw bryderon.

Gweithdrefn gwyno

Os byddwch yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar y gwasanaeth a gawsoch neu unrhyw fil, cysylltwch â Joanne Cromwell ar 029 2267 5241 neu drwy e-bost yn [email protected] neu drwy’r post i Hugh James, Dau Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FS.

Bydd Joanne, y Pennaeth Cydymffurfiaeth ac Ansawdd, yn ystyried y gŵyn a, lle bo’n bosibl, yn ymdrin â hi’n uniongyrchol o fewn pum diwrnod gwaith. Lle mae angen ystyriaeth fanylach, bydd y cleient yn cael cydnabyddiaeth bod y gŵyn wedi dod i law a chaiff y gŵyn ei throsglwyddo i’r Ymgynghorydd Gofal Cleientiaid. Yna, bydd yr Ymgynghorydd Gofal Cleientiaid yn cymryd cyfrifoldeb am bryder y cleient ac yn ymateb yn briodol o fewn 28 diwrnod i dderbyn y pryder. Joanne a’r Ymgynghorydd Gofal Cleientiaid sy’n gyfrifol am sicrhau yr ymdrinnir â phob pryder yn gyflym.

Os ydych yn aelod o’r cyhoedd neu’n fusnes bach iawn, yn elusen, yn glwb neu’n ymddiriedolaeth ac na allwn ddatrys unrhyw broblem i’ch boddhad am unrhyw reswm neu nad ydym yn ymdrin â’ch cwyn o fewn wyth wythnos, neu os byddwch yn anghytuno ag unrhyw fil, gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol ar 0300 555 0333 neu drwy’r post yn PO Box 6167, Slough, SL1 0EH neu drwy e-bost yn [email protected]. I gael manylion ychwanegol, ewch i www.legalombudsman.org.uk.

Fel rheol, bydd angen i chi ddwyn cwyn gerbron yr Ombwdsmon Cyfreithiol o fewn chwe mis i gael ymateb ysgrifenedig terfynol gennym am eich cwyn, neu, os na fyddwn yn ymdrin â’ch cwyn o fewn wyth wythnos, chwe mis ar ôl i’r cyfnod o wyth wythnos i ymdrin â’ch cwyn ddod i ben. Yn ogystal, mae’r Ombwdsmon Cyfreithiol fel arfer yn disgwyl i gwynion gael eu cyfeirio ato o fewn blwyddyn o ddyddiad y weithred neu’r hepgoriad y mae eich pryder yn ymwneud â hi/ag ef neu o fewn blwyddyn i’r dyddiad y gwnaethoch sylweddoli bod pryder. Gallwch hefyd wneud cais i’r llys am asesiad o’r bil o dan Ran III o Ddeddf Cyfreithwyr 1974. Mae’n bosibl na fydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn ystyried cwyn am y bil os byddwch wedi gwneud cais i’r llys asesu’r bil. Mae gennych hawl i gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol mewn perthynas â Gwasanaethau Ariannol.

Os yw eich pryder yn ymwneud â’n hymddygiad proffesiynol, er enghraifft rydych chi’n credu ein bod wedi bod yn anonest neu wedi codi gormod arnoch yn fwriadol neu rydych chi’n credu ein bod wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, mae’n bosibl y gallwch gwyno i’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Caiff y polisi hwn a’r weithdrefn gwyno hon eu rhoi ar waith yn unol â gofynion rheol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ar drin cwynion a rhoddir gwybod i gleientiaid amdanynt yn ein Telerau ac Amodau Busnes.